Cynulliad Cenedlaethol Cymru | National Assembly for Wales

Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig

Climate Change, Environment and Rural Affairs Committee

Ymchwiliad i Dlodi Tanwydd | Inquiry into Fuel Poverty

FP 12

Ymateb gan : Adran Dai Cyngor Sir Ynys Môn

Evidence from : Isle of Anglesey County Council Housing Department

 

1.   Graddau ac effeithiau tlodi tanwydd yng Nghymru

 

Mae Tlodi Tanwydd yn parhau i fod yn broblem fawr yng Nghymru, er gwaethaf yr Amcangyfrifon Tlodi Tanwydd diweddaraf gan Lywodraeth Cymru (2018) sy’n dangos bod y ganran o aelwydydd sydd mewn tlodi tanwydd yng Nghymru wedi gostwng o 26% i 12% dros gyfnod 10 mlynedd. Fe wnaeth adroddiad a luniwyd gan Gyngor Sir Ddinbych yn 2017, ‘Ardal Astudiaeth Allweddol Wylfa Newydd: Asesiad Effeithlonrwydd Ynni Tai’, ganfod bod y lefelau tlodi tanwydd yn uwch na’r cyfartaledd mewn 212 o ardaloedd cynnyrch y cyfrifiad o fewn yr ardal astudiaeth allweddol (ar adeg pan oedd astudiaethau a gomisiynwyd gan y Llywodraeth yn nodi cyfartaledd tlodi tanwydd o 24% yng Nghymru). Mae’r wybodaeth hon yn awgrymu fod y ganran bresennol o aelwydydd sydd mewn tlodi tanwydd yn ardal Astudiaeth Allweddol Wylfa Newydd yn debygol o fod yn uwch na’r Cyfartaledd Cenedlaethol o 12%. Nodir hefyd fod tlodi tanwydd yn fwy cyffredin mewn tai Rhent Sector Preifat a thai perchen-feddiannwr.

 

Gwyddom fod Tlodi Tanwydd yn cael nifer o effeithiau negyddol ar iechyd, ac yn economaidd a chymdeithasol, ac maent yn cynnwys y canlynol:

·         Bwyta neu Gadw’n Gynnes– yn aml iawn mae’n rhaid i bobl sy’n byw mewn tlodi tanwydd ddewis rhwng gwresogi eu cartref i safon dderbyniol neu fwyta diet iach, cytbwys. Mae nifer fawr o unigolion ar Ynys Môn yn cael eu cyfeirio i fanciau bwyd.

·         Materion Iechyd– mae methu â chynhesu’r cartref yn ddigon da yn gallu arwain at nifer o broblemau anadlol a cardiofasgwlaidd, a gall gynyddu’r risg o symptomau arthritig.

·         Mwy o risg o godymau yn y cartref– mae codymau a damweiniau domestig yn fwy cyffredin mewn cartrefi oer yn y gaeaf.

·         Marwolaethau Ychwanegol yn y Gaeaf – roedd 3,400 o farwolaethau ychwanegol yn y gaeaf yng Nghymru yn ystod 2017/18 (i fyny o 1,850 o farwolaethau ychwanegol yn y gaeaf yn ystod 2016/17).

·         Eithrio Cymdeithasol– mae pobl sy’n byw mewn cartrefi oer, tamp yn dueddol o osgoi gwahodd ffrindiau neu deulu i’w cartref am bod ganddynt gywilydd o gyflwr y tŷ. Gall hyn arwain at broblemau iechyd meddwl megis straen ac iselder.

·         Materion Iechyd Meddwl– yn ogystal â phroblemau iechyd meddwl sy’n cael eu hachosi gan eithrio cymdeithasol, mae poeni ynghylch talu biliau ynni yn gallu cynyddu lefelau straen a chyflyrau iechyd meddwl eraill.

·         Cyrhaeddiad Addysgol Is– mae cyfnodau o waeledd am fod pobl yn byw mewn cartref oer, tamp yn debygol o olygu y bydd plant yn colli llawer o wersi gwerthfawr yn yr ysgol, gan arwain at gyrhaeddiad addysgol is.

·         Y Gost i’r GIG– mae tai gwael yn costio tua £67 miliwn y flwyddyn i’r GIG yng Nghymru mewn costau triniaeth, ac amcangyfrifir fod y gost lawn i gymdeithas yng Nghymru oddeutu £168 miliwn y flwyddyn.

·         Effeithiau ehangach ar yr economi– nifer uwch o ddyddiau’n cael eu colli oherwydd salwch, ac incwm gwario is gan aelwydydd, a fyddai fel arall yn cael ei wario yn yr economi leol.

·         Cynnydd mewn stoc tai o ansawdd gwael – mae cartrefi sydd wedi eu gwresogi/inswleiddio’n wael yn gallu arwain at damprwydd a llwydni.

 

 

2.   Pam na lwyddodd Llywodraeth Cymru i gyflawni ei tharged statudol i ddileu tlodi tanwydd yng Nghymru erbyn 2018

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi llwyddo i leihau tlodi tanwydd yng Nghymru, er gwaetha’r ffaith eu bod wedi methu cwrdd â’u targed statudol uchelgeisiol o gael gwared ar dlodi tanwydd yng Nghymru erbyn 2018.

 

Un ffactor sydd wedi cyfrannu at y methiant hwn mae’n debyg yw’r diffyg data mwyaf diweddar ar dlodi tanwydd sydd ar gael, ar lefel leol. Un o’r prif gamau gweithredu yn strategaeth 2010 oedd gwella ansawdd ac amseroldeb data. Gallai data gwell / cyfredol olygu y byddai Awdurdodau Lleol ac asiantaethau eraill yn gallu targedu ardaloedd yn well i’w cefnogi.

 

Rhai camau allweddol eraill o strategaeth 2010 na lwyddwyd i’w cyflawni’n llawn yw cydlynu a chronni’r gefnogaeth, a sicrhau bod gwasanaethau newydd yn cael eu datblygu mewn partneriaeth ag asiantaethau lleol dibynadwy, gwasanaethau iechyd a chymdeithasol, Awdurdodau Lleol a sefydliadau’r trydydd sector.

 

Nid oes gan Lywodraeth Cymru y grym i ddeddfu ynghylch prisiau ynni, ac felly cydnabyddir mai ychydig iawn y mae modd ei wneud i liniaru’r ffactor hwn, ar wahân i annog cwsmeriaid i newid cyflenwyr ynni yn rheolaidd a newid eu hymddygiad. Byddai mwy o sylw i linell Cymorth Ynni Nyth wedi gallu helpu gyda hyn.

 

Gallai Llywodraeth Cymru fod wedi helpu aelwydydd ar incwm isel i wneud y mwyaf o’u hincwm, trwy fwy o gydweithio gyda gwahanol sefydliadau (Cyngor Ar Bopeth, Trussell Trust ac ati) a chynlluniau eraill a ariennir gan y Llywodraeth (Cefnogi Pobl, Teuluoedd yn Gyntaf ac ati). Gellid bod wedi cysylltu hyn i rôl Rheolwr Datblygu Partneriaeth y rhaglen Nyth.

 

Ymddengys mai prif ffocws Llywodraeth Cymru wrth daclo tlodi tanwydd fu cael gwared ar ddiffyg effeithlonrwydd ynni fel ffactor sy’n gyrru tlodi tanwydd, trwy fuddsoddi mewn cynlluniau i osod mesurau ynni mewn cartrefi, megis Nyth ac Arbed. Fodd bynnag, dylid edrych ar feini prawf cymhwyster y cynllun Nyth, a dylai’r cynllun Arbed gael ei gydlynu’n well. Mae yna hefyd ddiffyg adnoddau mewn Awdurdodau Lleol i weithredu / bidio am / hyrwyddo’r cynlluniau hyn.

 

Rhwystr arall i fynd i’r afael â thlodi tanwydd yw’r ffaith nad yw nifer o bobl yn adnabod eu hunain fel person sy’n byw mewn tlodi tanwydd. Gallai Llywodraeth Cymru fod wedi gweithio gyda Byrddau Iechyd i sicrhau bod rheolwyr practis Meddygfeydd Teulu yn gallu adnabod yr arwyddion o dlodi tanwydd, a chyfeirio unigolion at asiantaethau sy’n gallu helpu.

 

3.   Sut mae camau gweithredu Llywodraeth Cymru hyd yma wedi helpu i leihau tlodi tanwydd, yn arbennig, effaith y Rhaglen Cartrefi Clyd (sy’n cynnwys Arbed a Nyth) a Safon Ansawdd Tai Cymru

 

Y Rhaglen Cartrefi Clyd:

 

Mae’r rhaglen Cartrefi Clyd yn bendant wedi cael effaith ar dlodi tanwydd yng Nghymru, gyda data Llywodraeth Cymru yn dangos bod mwy na £265 miliwn wedi’i fuddsoddi mewn bron i 55,000 o gartrefi trwy’r cynlluniau Arbed a Nyth ers 2011. Nodir nad yw’r un o’r cynlluniau hyn yn darparu ffenestri ar hyn o bryd (gwydr dwbl ac ati), fodd bynnag gellir ariannu’r rhain trwy fenthyciadau di-log gan Awdurdodau Lleol ar gyfer gwella cartrefi.

 

 

NYTH:

Mae Nyth yn bendant wedi helpu unigolion sydd ar incwm isel yng Nghymru. Roedd canfyddiadau a gyhoeddwyd ar 5 Ebrill 2017 yn yr adroddiad Cysylltu Data Tlodi Tanwydd a Iechyd, yn dangos bod y nifer sy’n defnyddio’r gwasanaeth iechyd yn is ymysg pobl oedd wedi elwa o gynllun Nyth Cartrefi Clyd Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, ymddengys nad yw’r cynllun yn targedu’r rheini sydd mewn tlodi tanwydd, gan fod adroddiad 2018-19 Nyth yn dangos nad oedd 57% o’r aelwydydd a dderbyniodd becyn effeithlonrwydd ynni yn byw mewn tlodi tanwydd. Mae angen adolygu’r meini prawf cymhwyster ar gyfer y cynllun hwn.

Mae Nyth hefyd yn darparu llinell gyngor am ddim ar ynni, er nad yw’r gwasanaeth hwn yn hysbys iawn. Mae gwefan Nyth ond yn rhestru “Rheolwr Datblygu Partneriaeth” ar gyfer de a gorllewin Cymru, felly mae’n bosib nad yw asiantaethau yng ngogledd Cymru yn gwybod cymaint am y gefnogaeth sydd ar gael trwy’r cynllun Nyth.

 

ARBED:

Mae Arbed, fel cynllun sy’n gweithio mewn gwahanol ardaloedd, wedi bod yn llwyddiannus yn targedu’r rheini sy’n byw mewn cartrefi gwledig, anodd i’w trin ac sydd heb gyswllt nwy. Mae’r ffaith nad oes prawf modd ar gyfer y cynllun yn golygu ei fod wedi cynorthwyo pobl dlawd sydd mewn gwaith, sydd efallai’n byw mewn cartrefi sy’n anodd i’w cynhesu. Mae ardaloedd yng ngogledd Cymru wedi elwa o gynlluniau cyswllt nwy a chynlluniau i osod mesurau effeithlonrwydd ynni (retrofit). Gallai’r cynllun hwn weithio’n well yn lleol petai yna well cydweithio / cyfathrebu gydag awdurdodau lleol. Mae’r meini prawf cymhwyster ar gyfer cynlluniau Arbed wedi bod yn newid yn gyson, gydag ychydig iawn o gyfathrebu gydag awdurdodau lleol.

Mae gan y cynllun hwn y potensial hefyd i roi hwb i ddatblygiad economaidd trwy gynnig contractau i gwmnïau lleol, fodd bynnag mae angen darn o waith i adnabod pam fod cyn lleied o gwmnïau’n bidio am y contractau.

 

Safon Ansawdd Tai Cymru:

 

Fel awdurdod lleol sydd wedi cadw ei stoc tai yn fewnol, mae SATC wedi creu rhwymedigaethau sydd heb amheuaeth wedi cael effaith bositif ar ansawdd ein stoc tai. Mae hyn wedi helpu i leihau effeithiau effeithlonrwydd ynni gwael fel rhywbeth sy’n gyrru tlodi tanwydd ar gyfer ein tenantiaid. Mae unrhyw fethiannau derbyniol yn parhau i gael sylw trwy ein rhaglen gynnal a chadw gylchol.

 

Er gwaethaf y gwelliant i effeithlonrwydd ynni ein stoc tai, rydym yn dal i weld nifer o aelwydydd yn byw mewn tlodi tanwydd yn y sector rhentu cymdeithasol. Mae hyn yn bennaf oherwydd ymddygiad y tenantiaid – e.e. tenantiaid sy’n defnyddio eu systemau gwresogi yn aneffeithlon ac/neu nad ydynt yn newid yn cyflenwyr ynni yn aml. Rydym yn cymryd camau i fynd i’r afael â’r materion hyn trwy gomisiynu Wardeiniaid Ynni, ynghyd â’n Swyddogion Cynhwysiad Ariannol, i helpu ein tenantiaid ddefnyddio eu systemau ynni yn fwy effeithlon, eu cefnogi i newid cyflenwr ynni, ac i ymgeisio am gynlluniau megis y Disgownt Cartrefi Cynnes.

 

4.   Sut y dylai strategaeth olynol Llywodraeth Cymru i’r strategaeth tlodi tanwydd (a fydd yn destun ymgynghoriad yn yr hydref 2019) fod yn wahanol i’w strategaeth yn 2010

 

Dylai strategaeth tlodi tanwydd newydd Llywodraeth Cymru gymryd i ystyriaeth y ‘Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014’ a ‘Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015’. Disgwylir y bydd y strategaeth newydd yn debyg iawn i ‘Effeithlonrwydd Ynni yng Nghymru – Strategaeth am y 10 mlynedd nesaf – 2016-2026’ gan Lywodraeth Cymru.

 

Dylai olynydd Llywodraeth Cymru i’r strategaeth 2010 roi ystyriaeth i’r rhaglen dad-garboneiddio. Yn benodol, dylai’r mesurau a gynigir gan raglen Cartrefi Clyd Llywodraeth Cymru adlewyrchu’r argymhellion a wnaed yn yr adolygiad ‘Cartrefi Gwell, Cymru Well, Byd Gwell – Dad-garboneiddio cartrefi presennol yng Nghymru’.

 

Dylai’r strategaeth tlodi tanwydd newydd roi mwy o ystyriaeth i’r bobl hynny sydd mewn gwaith ond hefyd mewn tlodi tanwydd. Dylid cyflawni hyn trwy weithio gydag asiantaethau/darparwyr megis y Trussell Trust, Cefnogi Pobl, Teuluoedd yn Gyntaf a Dechrau’n Deg. Fel y nodwyd yn flaenorol, mae adroddiad Nyth 2018-19 yn dangos nad yw’r meini prawf cymhwyster ar gyfer y cynllun yn targedu’r rheini sydd wir mewn angen.

 

Fe wnaeth Llywodraeth Yr Alban gyhoeddi ei Strategaeth Tlodi Tanwydd Drafft ar gyfer yr Alban 2018 ym mis Mehefin 2018. Dylai Llywodraeth Cymru ystyried rhoi camau gweithredu tebyg ar waith, megis ystyried datblygu teclyn asesu tlodi tanwydd, ymgysylltu â chynghorau i adnabod cyfleoedd i wneud i gynlluniau weithio’n well yn lleol, a sicrhau llywodraethiant cadarn ac effeithiol ar gyfer monitro cynnydd y strategaeth.

 

5.   Pa gamau y dylai Llywodraeth Cymru eu cymryd i sicrhau bod cartrefi newydd, yn ogystal â chartrefi presennol, yn effeithlon iawn o ran ynni i’w hatal rhag achosi tlodi tanwydd yn y dyfodol.

 

Mae’n anodd i Lywodraeth Cymru gymryd camau i sicrhau bod cartrefi yn arbennig o ynni effeithlon, gan nad oes gan Llywodraeth Cymru y pwerau i reoleiddio effeithlonrwydd ynni. Fodd bynnag, bydd cyflwyniad Deddf Ynni 2011 Llywodraeth y DU yn helpu i sicrhau bod cartrefi Sector Rhent Preifat (PRS) yn fwy effeithlon. O fis Ebrill 2020, bydd rhaid i’r holl eiddo PRS gael statws EPC o ‘E’ neu uwch, a dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod gan Rhentu Doeth Cymru y pŵer a’r adnoddau i orfodi hyn yn effeithiol. Gallai Rhentu Doeth Cymru ei gwneud yn ofynnol i landlordiaid ddarparu Tystysgrif Perfformiad Ynni a/neu brawf o eithriad pan fyddant yn cofrestru efo nhw.

 

Gallai Llywodraeth Cymru sicrhau bod cartrefi newydd sbon yn effeithlon iawn gydag ynni trwy ddillyn yr argymhellion o’r adroddiad ‘Cartrefi Gwell, Cymru Well, Byd Gwell – Dad-garboneiddio cartrefi presennol yng Nghymru’. Nid ydym yn rhagweld unrhyw broblemau yn sgil gofyniad i fod yn adeiladu cartrefi i’r safon uwch a argymhellir gan Bwyllgor y DU ar Newid Hinsawdd (cael eu gwresogi trwy ffynonellau carbon isel, bod ganddynt lefelau eithriadol o uchel o effeithlonrwydd ynni ynghyd ag awyriad priodol, a phan fo’n bosib, bod adeiladau yn rhai ffrâm goed). Rydym yn cydnabod y byddai’r costau adeiladu yn uwch, ond byddai hyn yn rhatach na cheisio gosod mesurau/cydrannau eraill mewn eiddo yn ddiweddarach.

 

Dylai Llywodraeth Cymru barhau i ddarparu cyllid i dreialu tai ynni-effeithlon arloesol trwy ei Raglen Tai Arloesol lwyddiannus.